Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Gorffennaf 2014
Adroddiad ar yr amserlen ar gyfer ystyried y Bil Trais ar sail
Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru)
1. Ar 30 Mehefin 2014, cafodd Bil Llywodraeth, ‘Bil Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru)’, ei gyflwyno yn y Cynulliad.
2. Ar 10 Mehefin 2014, cytunodd y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog 26.9, i gyfeirio’r Bil at y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, er mwyn iddo ystyried yr egwyddorion cyffredinol a chyflwyno adroddiad arnynt.
3. Ar 24 Mehefin 2014, yn unol â Rheol Sefydlog 26.7, trefnodd y Pwyllgor Busnes amserlen i’r Pwyllgor ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil a chytunodd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad erbyn 14 Tachwedd 2014.
4. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylid cwblhau trafodion Cyfnod 2 erbyn 6 Chwefror 2015, ar yr amod bod y Cynulliad yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil.